Ysgol Eco/Werdd
Hafan > Ysgol > Ysgol Eco/Werdd
Mae’r Pwyllgor Eco yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion etholedig drafod pynciau amgylcheddol sy’n bwysig iddynt yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach.
Y Pwyllgor sy’n gyrru unrhyw newidiadau ac yn monitro’r canlyniadau . Mae’r aelodau yn adrodd nôl unrhyw ddatblygiadau i’w cyfoedion a’ u hathrawon.
Mae ymwybyddiaeth a gweithredoedd amgylcheddol yn chwarae rhan blaenllaw ym mywyd ac ethos yr ysgol. Yn sgîl hyn fe drefnir ymgyrchoedd , diwrnodau gweithredu a phrosiectau i hyrwyddo dealltwriaeth a phwysigrwydd gofalu am ein hamgylchedd.