Croeso i Ysgol Morfa Rhianedd
Mae’n bleser eich croesawu i wefan yr ysgol.
Ein nod yma yn Ysgol Morfa Rhianedd yw cynnal awyrgylch hapus, diogel a chartrefol lle dangosir parch at bob unigolyn a ble ceisir sicrhau bod pob disgybl yn cael cyfle i ddatblygu i’w lawn botensial mewn awyrgylch heriol a theg.
Credwn fod cyd-weithio agos rhwng yr ysgol a’r cartref yn holl bwysig. Croesewir a gwerthfawrogir cefnogaeth a chymorth rhieni bob amser.
Mae croeso i rieni sy’n ystyried anfon eu plant i’r ysgol hon i ymweld â’r ysgol trwy drefnu ymlaen llaw gyda mi. Mae yma ddrws agored i rieni/warchodwyr bob amser. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon cysylltwch â mi ar unwaith.
Yn gywir
Gethin M Jones (Pennaeth)
Dwy iaith dwywaith y cyfleoedd
Facbook









