Cyngor Ysgol
Beth yw Cyngor Ysgol?
Beth yw Cyngor Ysgol? Grŵp o ddisgyblion yw cyngor ysgol, wedi’u hethol gan eu cyd-ddisgyblion i gynrychioli eu barn a chodi materion gydag uwch-reolwyr a llywodraethwyr yr ysgol. Gall cyngor yr ysgol hefyd gymryd rhan a threfnu prosiectau ar ran y disgyblion, a chyfrannu at gynllunio ac at bethau fel Cynllun Datblygu’r Ysgol, cyfarfodydd y corff llywodraethu a phenodiadau staff.
Byddem yn trafod unrhyw faterion sydd wedi codi, syniadau am sut i wella’r ysgol a threfnu unrhyw ddigwyddiadau. Fe welir aelodau y cyngor yn y derbynfa, mae’n bosib i chi weld munudau y cyfarfodydd yn yr ysgol os ydych yn dymuno.
I fod yn effeithiol, rhaid i gyngor ysgol:
- Fod yn gynrychiadol ac yn gynhwysol;
- Gymryd amser i wrando ar yr holl ddisgyblion ac i gyfleu eu barn;
- Adborthi i ddisgyblion am yr hyn ddigwyddodd am eu barn;
- Wneud i bethau ddigwydd – neu esbonio pam nad yw hyn yn bosibl!
Bydd Cyngor Ysgol Morfa Rhianedd yn:
- Lais i holl blant yr ysgol
- Parhau i wella ein hysgol
- Helpu cadw’r ysgol yn iach a diogel
- Helpu’r plant i fod yn ffrindiau
- Rhoi cyfle i blant ac oedolion rannu eu syniadau
- Trafod syniadau newydd.
- Casglu arian er mwyn helpu elusennau a plant a phobl llai ffodus na ni
- Cyfarch ymwelwyr newydd i’r ysgol a sicrhau bod croeso gan y plant
- Gweithio efo’r plant sydd ar y Cyngor Eco, Llysgenhadon Gwych, Llysgenhadon Chwaraeon, Siarter Iaith ac Arweinyddion Digidol
- Gwneud ein gorau i wneud pawb yn hapus a diogel
- Cydweithio gyda CRhA Ysgol Morfa Rhianedd a chreu rhaglen o weithgareddau ar gyfer y flwyddyn
- Cyfrannu at bolisïau – blwyddyn diwethaf dyma ni yn helpu i greu polisi disgwyliadau dosbarth a disgwyliadau buarth
- Y Cyngor Ysgol yw llais ein plant, mae ganddynt yr hawl i drafod a gwneud penderfyniadau er mwyn gwella ein hysgol.