Llywodraethwyr
Hafan > Llywodraethwyr
Mae rôl y Llywodraethwyr yn hanfodol ar gyfer datblygiad yr ysgol, ac yn cynorthwyo drwy eistedd fel bwrdd ymgynghorol a chyfarwyddol.
Gwnânt benderfyniadau ynglŷn â sut mae’r ysgol yn cael ei gweithredu. Bydd y Corff Llawn yn cyfarfod o leiaf unwaith bob tymor, a cheir cyfarfodydd rheolaidd o’r is bwyllgorau er mwyn trafod agweddau staffio, cyllid, addysg arbennig , cwricwlwm ac adeiladau.
Mae Llywodraethwyr yn cael eu penodi i gynorthwyo wrth:
- benderfynu beth sydd yn cael ei ddysgu a bod y disgyblion yn derbyn addysg o’r ansawdd uchaf
- safoni ymddygiad pant
- gyfweld a phenodi staff
- benderfynu sut mae gwario’r gyllideb
Mae Llywodraethwyr yn:
- Rieni
- Athrawon a staff ategol yr ysgol
- Cynrychiolwyr cynghorau lleol
- Cynrychiolwyr y gwasanaethau masnachol
Mae rhieni Llywodraethwr:
- Gyda phlentyn yn yr ysgol
- Yn cael ei ethol/hethol gan rieni’r ysgol
- Yn gwasanaethu fel bob llywodraethwr arall am gyfnod o 4 blynedd