Ysgol Morfa Rhianedd

Cylchlythyr Medi 4ydd, 2026


Hafan > Newyddion > Cylchlythyr Medi 4ydd, 2026

Croeso nôl i flwyddyn academaidd newydd! Mae’n braf croesawu pawb yn ôl, yn enwedig y 13 o blant newydd yn y Meithrin. Rydym hefyd yn meddwl am ein cyn-ddisgyblion sydd wedi dechrau yn yr ysgol uwchradd yr wythnos hon, a dymunwn bob lwc iddynt.

Mae hi wedi bod yn wythnos bendigedig hyd yma. Mae’r wisg ysgol yn werth ei gweld, ac mae presenoldeb a phrydlondeb wedi bod yn ardderchog. Gadewch i ni gadw hyn i fyny drwy gydol y flwyddyn!

Darllenwch Cylchlythyr Medi 4ydd, 2026 (PDF)


Pob Eitem Newyddion