Ysgol Morfa Rhianedd

Cylchlythyr Gorffennaf y 15fed, 2026


Hafan > Newyddion > Cylchlythyr Gorffennaf y 15fed, 2026

Diolch o galon am eich cydweithrediad a’ch cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn, ac yn enwedig ers mis Ionawr pan gamais i’r rôl hon. Hoffwn hefyd ddiolch i chi am eich negeseuon caredig yn dilyn fy newyddion yn y cylchlythyr diwethaf.

Mae Ysgol Morfa Rhianedd yn ysgol wirioneddol arbennig, gyda phlant, staff, rhieni a chymuned unigryw sy’n gwneud yr ysgol yn lle mor arbennig. Mwynhewch wyliau’r haf pan ddaw. Mae’r staff yn llawn haeddu cael rhoi eu traed i fyny a mwynhau hoe fach cyn i’r hwyl ddechrau eto ym mis Medi.

Darllenwch Cylchlythyr Gorffennaf y 15fed, 2026 (PDF)


Pob Eitem Newyddion